Dewch i gefnogi safiad Jamie Bevan dros y Gymraeg.
███████████████████████████████
"Os hoffech fersiwn Gymraeg o'r neges hon bydd rhaid i chi ofyn dro ar ol tro"
███████████████████████████████
"Gwasanaeth Llysoedd Prydain - Heb newid ein hagwedd tuag...
[read more]
Dewch i gefnogi safiad Jamie Bevan dros y Gymraeg.
███████████████████████████████
"Os hoffech fersiwn Gymraeg o'r neges hon bydd rhaid i chi ofyn dro ar ol tro"
███████████████████████████████
"Gwasanaeth Llysoedd Prydain - Heb newid ein hagwedd tuag at y Gymraeg ers dros hanner can mlynedd"
███████████████████████████████
Fe gynhelir achos llys Jamie Bevan ar Awst 13eg yn Llys Ynadon Merthyr am iddo wrthod talu dirwy a osododd arno fel canlyniad i brotest dros ddyfodol sianel teledu Cymraeg.
Derbyniodd gwys uniaith Saesneg yn ei alw i'r achos llys hwn, fel digwyddodd i Gareth Miles yn ol ym 1962, un o'r digwyddiadau a arweiniodd at sefydlu'r Gymdeithas.
Roedd Jamie Bevan wedi torri i mewn i swyddfa etholaeth Aelod Seneddol Ceidwadol Gogledd Caerdydd, Jonathan Evans, a chwistrellu slogan ar wal yr adeilad fel protest yn erbyn y toriadau i’r sianel teledu Cymraeg. Torrodd ef i mewn ar y 6ed Mawrth y llynedd – y diwrnod yr oedd y Prif Weinidog, David Cameron, yn cyfarch cynhadledd y Ceidwadwyr yn y brifddinas.
Cwtogir dros 90% oddi ar grant Lywodraeth Prydain i'n hunig sianel deledu Gymraeg.
Gorchmynnwyd Jamie Bevan i dalu iawndal o dros fil o bunnau a chadw at gyrffyw. Mae ef eisoes wedi treulio rhai dyddiau yn y carchar am wrthod cydymffurfio â'r gorchymyn tagio a chyrffyw. Disgwylir iddo gael ei garcharu am gyfnod pellach ar Awst 13 wrth iddo barhau i wrthod talu'r ddirwy wreiddiol.
███████████████████████████████